Rydyn ni'n chwilio am Beiriannydd brwdfrydig a phrofiadol i arwain a rheoli tîm Strategaeth Drafnidiaeth a Rheoli Datblygu Cyngor Caerffili.
Byddwch chi'n ymuno ag un o'r awdurdodau mwyaf yng Nghymru gan weithio ar bob agwedd ar ddiogelu cyfanrwydd rhwydwaith priffyrdd y Cyngor o weithgareddau datblygwyr ac amddiffyn y Cyngor rhag rhwymedigaethau sy'n codi o ffyrdd newydd neu welliannau priffyrdd sydd wedi cael eu hadeiladu'n anfoddhaol gan ddatblygwyr.
Gyda'ch tîm, a'r sefydliad ehangach, byddwch chi'n cael y cyfle i lywio polisïau a strategaethau trafnidiaeth. Byddwch chi hefyd yn gweithredu fel rheolwr cleient ar gyfer prosiectau a chynlluniau peirianneg cyfalaf trafnidiaeth penodol a gwasanaethau ymgynghori. Mae hyn yn cynnwys rheoli arian yn gymwys.
Mae hon yn rôl gyffrous ac amrywiol ac mae'n gofyn am sgiliau arwain cryf a gwybodaeth gadarn o'r polisïau trafnidiaeth sy'n newid yn gyflym a gwybodaeth dechnegol ddiweddar sy’n gysylltiedig â rheoli datblygu priffyrdd a chytundebau priffyrdd.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Clive Campbell ar 01443 863106 neu ebost: campbc@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Mae'r cyfyngiadau gwleidyddol a ddiffinnir gan 'Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990 fel y'u diwygiwyd' yn berthnasol i chi mewn perthynas â'r swydd hon.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.