Mae swydd gwag yn cael ei hysbysebu ar gyfer Swyddog Iechyd a Diogelwch yng Nghrŵp Strategaeth a Gweithrediadau Gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Byddai'r cyfle cyffrous hwn yn cynnwys materion datblygu a chydymffurfio megis polisïau, prosesau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch, adolygiadau hyfforddi a gweithredu, yn ogystal â darparu cyngor ac arweiniad i gyflogeion a rheolwyr yn y Cyngor, gan sicrhau felly bod yr adran yn bodloni gofynion deddfwriaethol iechyd a diogelwch.
Mae'r rôl yn cysylltu â datblygu Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu Caerffili a bydd yn cyfrannu at drawsnewid y Gwasanaeth Gwastraff gan ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol o ansawdd uchel ar draws ystod eang o swyddogaethau rheoli gwastraff (e.e. Casgliadau Gwastraff, Glanhau Strydoedd, Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi, Trin Gwastraff a Throsglwyddo Gwastraff) a chynyddu perfformiad ailgylchu Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi, wrth gyfrannu at gyflawni targedau Llywodraeth Cymru ac Ewrop.
Byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus goladu, cofnodi a datblygu gwybodaeth data cywir sy'n cydymffurfio.
Byddai ymgeiswyr angen Tystysgrif y Bwrdd Arholi Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (NEBOSH)/NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol neu gymhwyster Lefel 3 cyfatebol ar Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person cliciwch yma
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Nathan Jones ar 01443 873739 neu ebost: jonesnj1@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 9 Hydref a 10 Hydref 2023.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth.