Rydyn ni'n recriwtio ar gyfer gweithwyr Casglu Sbwriel a Glanhau i weithio ar gyfer y Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu mewn amrywiaeth o rolau.
Mae gennym ni nifer o gyfleoedd swyddi cyffrous a fydd yn ein cynorthwyo ni i ddarparu ystod o wasanaethau gan gynnwys casglu, gwaredu a thrin gwastraff a deunyddiau ailgylchu.
Fel rhan o'r swydd, byddwch chi'n ymuno â thîm sy'n darparu gwasanaethau casglu gwastraff effeithiol, a gall hyn fod yn rhan o'r rowndiau casglu biniau.
Efallai y byddwch chi hefyd yn gyfrifol am gael gwared ar wastraff, malurion ac eitemau swmpus o fannau i gerddwyr, lleiniau glas, parciau, ffyrdd, palmentydd, tir diffaith, tai ac eiddo cyhoeddus.
Mae'r Awdurdod hefyd yn gweithredu 6 Canolfan Ailgylchu i Gartrefi sydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn ac rydyn ni'n recriwtio staff i'n helpu ni i wella perfformiad ailgylchu yn y safleoedd.
Bydd y rôl hon yn gofyn am lefel dda o sgiliau gwasanaethau i gwsmeriaid, gan y byddwch chi'n cynorthwyo trigolion i ailgylchu'n effeithiol ar y safle wrth waredu eitemau cartref. Bydd disgwyl i chi hefyd wirio cymwysterau'r rhai sy'n cyrraedd y safle ar gyfer trwyddedau preswyl a thrwyddedau gofynnol perthnasol.
Rhan allweddol o'r rôl hon yw gwella profiad y cwsmer a chynorthwyo cyflawni'r strategaeth i gynyddu cyfraddau ailgylchu ledled y Fwrdeistref Sirol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio fel gweithiwr ar gyfer un o'n gwasanaethau niferus ac yr hoffech chi fwy o wybodaeth, cysylltwch â Scott Jones 01443873732 / Ricky Vaughan 01443 873753
Mae gweithio ar y penwythnos ac ar wyliau banc yn hanfodol i’r rôl.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo'r gwasanaeth a sicrhau bod gwasanaeth effeithiol o ansawdd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer yn cael ei ddarparu.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person cliciwch yma
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Ricky Vaughan a Scott Jones ar 01443873732 neu 01443873732 neu ebost: jonessl4@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 2, 3 Hydref a 4 Hydref 2023.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth.