Byddwch chi'n ymuno â'r Tîm Strategaeth Drafnidiaeth a Rheoli Datblygu fel Uwch Gynllunydd Trafnidiaeth.
Yn y rôl gyffrous ac amrywiol hon, byddwch chi'n cyfrannu tuag at nodi anghenion, datblygu rhaglenni cyflawni a monitro cyflawni a rheoli ariannol ar gyfer strategaeth drafnidiaeth a chynlluniau diogelwch ffyrdd ledled y Fwrdeistref Sirol. Byddwch chi hefyd yn arwain ar gyflawni rhaglen gyflawni Map Rhwydwaith Teithio Llesol y Cyngor.
Byddwch chi'n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i gynnal astudiaethau dichonoldeb ar gyfer prosiectau a chynlluniau trafnidiaeth, nodi a dadansoddi problemau sy'n ymwneud â thrafnidiaeth a'r amgylchedd a gweithio'n rhagweithiol i gynnig atebion arloesol i wella'r rhwydwaith.
Yn y rôl hon, bydd angen i chi reoli, monitro a rhoi arweiniad i eraill o fewn y tîm ar faterion ariannol a thechnegol, gan gynnwys rhai o natur nad yw'n arferol.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Clive Campbell ar 01443 863106 neu ebost: campbc@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.