Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwyr Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 30 oriau - Bydd yr oriau hyn yn cael eu gweithio yn ôl trefn rota Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am yr oriau sydd ar gael, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio gan ddefnyddio'r manylion wedi'u darparu isod. Math o gontract: Parhaol, Rhan AmserLleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Cynllun Cynnal Byw ehangach. Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £19,697.84 - £21,064.05 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae gan Gynllun Byw â Chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfle gwych i ddau Weithiwr Gofal Cymdeithasol Benywaidd rhan-amser (30 awr yr wythnos). Ffocws y rolau hyn yw darparu gofal a chymorth sy'n hyrwyddo dewis ac annibyniaeth i gleientiaid benywaidd ag anabledd dysgu i'w galluogi nhw i fyw eu bywydau'n dda.
Bydd y rolau allweddol hyn yn mynnu bod yr ymgeiswyr llwyddiannus yn meithrin perthynas waith gadarnhaol ag aelodau eraill o'r tîm ac yn cyfleu syniadau ag angerdd gwirioneddol, ymrwymiad a hyblygrwydd a fydd yn gwella perfformiad y tîm yn ein Gwasanaeth Byw â Chymorth.
Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod â phrofiad o weithio mewn lleoliad gofal a gallu mabwysiadu agwedd frwdfrydig, ymroddedig a hyblyg at ddyletswyddau. Mae hyn yn cynnwys gweithio ar y penwythnos, preswylio ac ar wyliau banc yn rheolaidd. Hefyd, mae profiad gyda chleientiaid sydd angen cefnogaeth a chymorth gyda phob agwedd ar fywyd pob dydd, gofal personol a sgiliau cymdeithasol yn hanfodol.
Rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar gymhwyster Lefel 2 neu 3 priodol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gyfwerth, neu ymrwymo i'w gyflawni o fewn blwyddyn i'r penodiad (yn amodol ar argaeledd hyfforddiant).
Os ydych chi'n credu bod gennych chi rinweddau a fydd yn ysbrydoli eraill i gyflawni, llawer iawn o frwdfrydedd, ac rydych chi yn wirioneddol eisiau ‘gwneud gwahaniaeth’ i fywydau eraill yn ein cymuned leol, byddem ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Linda Birt ar 07808251575 neu ebost: birtl@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.
Mae'n ofynnol bod deiliad llwyddiannus y swyddi yn fenywaidd. Mae hon yn nodwedd warchodedig o dan ofyniad galwedigaethol y swydd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.