Mae swyddi gwag yn cael eu hysbysebu ar gyfer 6 Cynghorwyr Ailgylchu o fewn Grŵp Strategaeth a Gweithrediadau Gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Pwrpas y rôl yw hyrwyddo arferion gwastraff cynaliadwy ledled y Fwrdeistref Sirol, gan roi arweiniad a chyngor i ddeiliaid tai a'r gymuned fusnes leol, gyda'r bwriad o gael y Cyngor i gyflawni targedau ailgylchu statudol lefel uwch.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo'r gwasanaeth a sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer yn cael ei ddarparu. Bydd hyn yn gofyn am gryn dipyn o ymgysylltu â'r cyhoedd ar eu stepen drws nhw a hefyd ryngwynebu yn y rhwydwaith o gyfleusterau ailgylchu ledled y Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â mynychu digwyddiadau cyhoeddus a chorfforaethol.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person cliciwch yma
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rhodri Lloyd ar 01443 873758 neu ebost: lloydrj1@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 16, 17 Hydref a 18 Hydref.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth.