Mae gennym ni gyfle cyffrous i Uwch Beiriannydd ymuno â'n Tîm Strategaeth Drafnidiaeth a Rheoli Datblygu.
Fel rhan o'ch rôl chi, byddwch chi'n cynghori ar delerau cytundebau priodol gyda datblygwyr o dan adrannau perthnasol y Ddeddf Priffyrdd, trefnu archwiliadau gwaith datblygwyr ar briffyrdd a dechrau a chwblhau mabwysiadu'r rhain yn llwyr yn ogystal â chynnal Canllaw Dylunio Priffyrdd yr Awdurdod ar gyfer Datblygu Preswyl a Diwydiannol.
Mae'n hanfodol bod gennych chi brofiad o ddatblygu a gweithredu strategaethau trafnidiaeth, rheoli staff a chyllidebau.
Yn y rôl, bydd gofyn i chi reoli, monitro a rhoi arweiniad i eraill o fewn y tîm ar faterion ariannol a thechnegol, gan gynnwys rhai o natur nad yw'n arferol.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Clive Campbell ar 01443 863106 neu ebost: campbc@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.