Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Oriau gwaith: 0 oriau / Wrth Gefn Math o gontract: Achlysurol Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau i Oedolion. Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £12.59 yr awr ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Oes gennych chi dalent a rhinweddau sy'n ysbrydoli eraill? A all eich brwdfrydedd, eich parodrwydd a'ch ymrwymiad ddod â gwerth i wneud gwahaniaeth i unigolyn mewn cymunedau lleol?
Ydych chi'n effeithiol wrth feithrin perthnasoedd gweithio cadarnhaol gydag aelodau eraill o'r tîm? Ydych chi'n gallu cyfathrebu eich syniadau gydag angerdd, ymrwymiad a hyblygrwydd gwirioneddol a fydd yn gwella perfformiad y tîm Byw â Chymorth?
Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod â phrofiad o weithio mewn lleoliad gofal a gallu mabwysiadu agwedd frwdfrydig, ymroddedig a hyblyg at ddyletswyddau. Mae hyn yn cynnwys gweithio ar y penwythnos, preswylio ac ar wyliau banc.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Linda Birt ar 02920 880138 neu ebost: Birtl@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.