Mae swyddi gwag yn cael eu hysbysebu ar gyfer swyddi 2 Cynorthwywyr Technegol o fewn Grŵp Strategaeth a Gweithrediadau Gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae’r rôl yn canolbwyntio ar gydlynu a hwyluso’r ystod o wasanaethau gwastraff (casglu, gwaredu a thrin), delio â chwynion, adrodd ar berfformiad, ymateb i geisiadau am wybodaeth, delio â gwasanaeth yr Awdurdod i gwsmeriaid gwastraff masnachol, cynnal cyflwyniadau ffurfiol a chydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau cymunedol ac asiantaethau sector i gyflawni targedau perfformiad lefel uchel gyda'r nod o ddod yn genedl Ailgylchu Rhif 1.
Dylai fod gan ymgeiswyr gymhwyster Lefel 3 ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau mewn Rheoli Gwastraff a/neu gymhwyster rheoli.
Yn ogystal, bydd deiliaid y swydd yn cynorthwyo’r Prif Swyddogion gyda'r gwaith o reoli, datblygu a gwella’r gwasanaeth, cynorthwyo gyda gweithredu gofynion arbedion y Cynllun Ariannol Tymor Canolig bob blwyddyn ac amcanion gwella gwasanaethau eraill a sicrhau cydymffurfio â holl Bolisïau a Gweithdrefnau’r Cyngor.
Gallwch chi weld yr ystod lawn o ddyletswyddau yn y disgrifiad swydd a manyleb y person sydd ynghlwm.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person cliciwch yma
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rhodri Lloyd ar 01443 873758 neu ebost: lloydrj1@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 12 Hydref a 13 Hydref 2023.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth.