Rydyn ni'n recriwtio Uwch Weithiwr Gofal Preswyl i Blant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37 oriauMath o gontract: Parhaol, Llawn AmserLleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau Preswyl ehangach. Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £33,024 - £35,745 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc sy'n agored i niwed? Oes gennych chi o leiaf dwy flynedd o brofiad yn gweithio gydag ymddygiadau heriol mewn lleoliad preswyl ac yn edrych i wneud gwahaniaeth drwy ddull therapiwtig? Os felly, gallai swydd Uwch Weithiwr Gofal Preswyl i Blant fod yn addas i chi.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn awyddus i recriwtio Uwch Weithiwr Gofal Preswyl i Blant i ymuno ag un o'n cartrefi preswyl i blant sy'n ehangu. Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn llawn cymhelliant sy'n brofiadol, yn fedrus ac yn wybodus mewn Gofal Preswyl i Blant ac sy'n ymdrechu i wneud gwahaniaeth i fywydau'r plant hyn sy’n agored i niwed.
Mae gweithio i Gyngor Caerffili yn rhoi llawer o foddhad ac rydyn ni'n darparu system wych o gymorth i'n gweithwyr ac, yn gyfnewid am hyn, rydyn ni’n disgwyl gofal a phroffesiynoldeb o safon uchel. Rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda thîm MyST Caerffili sydd â'r prif ddiben o wella lles seicolegol pobl ifanc yn ogystal â'u perthnasoedd â'u teulu biolegol, eu hymlyniadau ag oedolion diogel, lleihau amhariadau ar leoliadau ac, yn enwedig, lleihau'r risg o leoliadau y tu allan i'r Fwrdeistref Sirol ar gyfer pobl ifanc ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol. Gyda’n gilydd, rydyn ni'n mynd ati’n rhagweithiol i ddarparu gofal 24/7 i helpu’r bobl ifanc hyn i annog eu datblygiad cymdeithasol, corfforol, emosiynol a moesol fel y gallan nhw gyrraedd eu llawn botensial.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Karen Williams ar 01443 811498 neu ebost: willik19@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd. Mae Safonau Gofynnol Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar gyfer Cartrefi Plant yn nodi bod yn rhaid i unigolion sy'n darparu gofal fod yn 18 oed o leiaf a bod o leiaf 4 blynedd yn hŷn na'r plentyn hynaf sy'n cael ei letya. Mae hon yn nodwedd warchodedig o dan ofynion galwedigaethol y swydd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.