Mae Cyngor Caerffili yn chwilio am Ddirprwy Bennaeth Cyllid (Swyddog Adran 151.)
Mae gennyn ni hanes balch o reolaeth ariannol gadarn sy'n darparu'r sylfaen y gallwn ni bellach ei defnyddio i ddechrau arallgyfeirio a thrawsnewid ein gwasanaethau, rhywbeth sy'n dod yn fwyfwy hanfodol yn y cyfnod heriol hwn.
Rydyn ni'n chwilio am ymgeisydd sydd nid yn unig â sgiliau a phrofiad ariannol profedig, ond sydd hefyd yn awyddus i helpu arwain cam nesaf ein taith, ymgeisydd sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau ariannol modern o ansawdd uchel a gweithredu datrysiadau a fydd yn galluogi trawsnewidiad parhaus y Cyngor.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person cliciwch yma
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Stephen Harris ar 01443 863066 neu ebost harrisr@caerphilly.gov.uk
Ar ôl darllen yr hysbyseb a’r disgrifiad swydd os hoffech wneud cais am y swydd cysylltwch â Michael Everest ar 07894 987335 neu e-bostiwch: Michael.Everest@Penna.com
Penna | Job board | Head of Financial Services
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Mae'r cyfyngiadau gwleidyddol a ddiffinnir gan 'Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990 fel y'u diwygiwyd' yn berthnasol i chi mewn perthynas â'r swydd hon