Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn chwilio am arweinydd strategol, blaengar i ymuno â'r Tîm Rheoli Corfforaethol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r pedwerydd awdurdod mwyaf yng Nghymru fel Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl, gan arwain y Gyfadran Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai.
Gyda chyllideb o tua £225.2 miliwn, bydd angen arweinydd arloesol ar y maes portffolio mawr i gynorthwyo rhaglen Drawsnewid barhaus y Cyngor, gan sicrhau gweithredu polisïau a darparu gwasanaethau'r Cyngor yn effeithiol ac effeithlon, yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'n bwysig meddu ar ddealltwriaeth dda o Lywodraeth Leol gan ganolbwyntio’n benodol ar Feysydd Gofal Cymdeithasol a Thai.
Rydyn ni'n chwilio am ymgeisydd sydd â llwyddiant blaenorol o arwain a'r gallu i weithio gydag ystod o asiantaethau i gyflawni amcanion corfforaethol.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl hon, mae'n hanfodol meddu ar gymhwyster ôl-raddedig, yn ogystal â chymhwyster rheoli ac arwain.
Mae gennym ni becyn buddion staff hael gan gynnwys cynllun cymorth gweithwyr, arferion gweithio’n ystwyth, mynediad at gynllun pensiwn llywodraeth leol a gostyngiadau stryd fawr a hamdden i enwi dim ond rhai.
Cynhelir y ganolfan asesu a chyfweliadau ym mis Medi 2023
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â’r Dirprwy Gyfarwyddwr Dave Street - 01443 863031 / streed@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r cyfyngiadau gwleidyddol a ddiffinnir gan 'Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990 fel y'u diwygiwyd' yn berthnasol i chi mewn perthynas â'r swydd hon.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.