Mae Cyngor Caerffili yn awyddus i benodi Swyddog Recriwtio i weithio mewn tîm sy'n ymroddedig i gynorthwyo'r sefydliad gyda recriwtio a hefyd i fod yn rhan annatod o'r tîm Adnoddau Dynol ehangach.
Rydyn ni'n chwilio am ymgeisydd sy'n awyddus i chwarae rhan hollbwysig wrth ddatblygu sut rydyn ni'n recriwtio nawr ac yn y dyfodol.
Os ydych chi wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau recriwtio modern o ansawdd uchel a gweithredu datrysiadau a fydd yn galluogi trawsnewidiad parhaus y Cyngor, byddem ni’n croesawu eich cais.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person cliciwch yma
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Sarena Forsd ar 078912 10485 neu ebost: fords1@caerphilly.gov.uk
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth.